Overlay Icon

SWP ARR

Swords Icon

Croeso i Fôr Ladron a'r ffa ffiaidd
Cliciwch ar y llong i ddechrau a dilynwch trywydd y trysor


Athrawon: lawrlwythwch Pecyn Miri'r Môr-ladron ar gyfer Athrawon (ffeil .zip).

Overlay Icon

SWP ARR

Swords Icon

Croeso aelod o griw y SWP ARR, neu’r SWP Sâl gynt. Diolch am achub Capten Neifion, Ceri a'r criw ac am ddod â darpar recriwtiaid newydd i'r llong. Ewch â nhw ar draws y Pedwar Cefnfor i ddysgu’r Pedwar Hanfod Hylan ac eglurwch pa mor berthnasol ydyn nhw i ddiogelwch bwyd gan ddefnyddio'r pyrth gwybodaeth defnyddiol. Dangoswch i bawb yr ydych chi'n eu hadnabod a byddan nhw hefyd yn gallu helpu i atal gwenwyn bwyd.

Pawb i gamu ar y llong.

Lledaenwch y neges fel nad yw eraill yn lledaenu'r germau.

Overlay Icon

GLANHAU

Swords Icon

Mae glanhau effeithiol yn cael gwared ar germau/bacteria oddi ar ddwylo, offer ac arwynebau, gan helpu i atal bacteria niweidiol rhag lledaenu ar fwyd.

Dwylo
Golchwch eich dwylo cyn i chi baratoi, coginio neu fwyta bwyd, gan ddefnyddio dŵr cynnes a sebon lle bo'n bosibl.

Cadachau llestri
Ewch ati i olchi neu newid cadachau llestri, tywelion te, sbwnjus a menig popty yn rheolaidd a gadael iddynt sychu cyn i chi eu defnyddio eto. Mae cadachau budr a llaith yn galluogi bacteria i dyfu.

Offer a llestri gweini
Cadwch yr holl offer a llestri yn lân cyn paratoi bwyd i osgoi croeshalogi.

Gair i gall gan Ceri:
Bydd dŵr cynnes yn sicrhau bod y sebon neu'r glanedydd (detergent) yn ewynnu’n iawn. Mae'n bwysig bod y sebon yn ewynnu fel y gall fod yn fwy effeithiol wrth gael gwared ar facteria. Os nad yw'n bosibl golchi eich dwylo (e.e. mewn picnic), defnyddiwch gadach gwlyb (wet wipe) i lanhau eich dwylo. Yna defnyddiwch lanweithydd (sanitiser) i'w sterileiddio.

Overlay Icon

Atal CROESHALOGI

Swords Icon

Croeshalogi yw'r hyn sy'n digwydd pan fydd germau/bacteria neu ficro-organebau eraill yn cael eu trosglwyddo o un gwrthrych i'r llall. Mae croeshalogi yn fwy tebygol o ddigwydd pan fydd bwyd amrwd yn cyffwrdd â bwyd parod i’w fwyta, offer neu arwynebau coginio.

Gallwch ei osgoi drwy ddilyn rhestr wirio Glenda:

Paratoi bwyd mewn ffordd hylan

  • defnyddio offer, platiau a byrddau torri gwahanol ar gyfer bwyd amrwd a bwyd wedi'i goginio
  • golchi platiau a byrddau torri ar gyfer bwyd amrwd a bwyd wedi'i goginio yn drylwyr ar ôl pob defnydd
  • gwneud yn siŵr nad ydych chi’n golchi cig amrwd
  • golchi eich dwylo ar ôl cyffwrdd â bwyd amrwd a chyn i chi drin bwyd parod i'w fwyta

Storio bwyd yn effeithiol

  • gorchuddio bwyd amrwd, gan gynnwys cig, a'i gadw ar wahân i fwyd parod i'w fwyta
  • defnyddio llestri sydd ag ochrau i atal y bwyd rhag gollwng
  • storio cig amrwd, dofednod, pysgod a physgod cregyn wedi’u gorchuddio ar silff waelod eich oergell
  • defnyddio offer, platiau a byrddau torri gwahanol ar gyfer bwyd amrwd a bwyd wedi'i goginio

Overlay Icon

COGINIO

Swords Icon

Sut i goginio eich bwyd i atal gwenwyn bwyd.

Bydd coginio bwyd ar y tymheredd cywir, ac am yr amser cywir, yn sicrhau bod unrhyw facteria niweidiol yn cael eu lladd. Ewch ati bob amser i edrych ar y cyngor ar ddeunydd pecynnu'r bwyd gan ddilyn y cyfarwyddiadau coginio.

Cig
Cyn i chi weini dofednod, hwyaid, porc a briwgig, gwnewch yn siŵr eu bod wedi’u stemio’n boeth ac wedi'u coginio’n drylwyr. Wrth dorri i ran fwyaf trwchus y cig, gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw ran o'r cig yn binc a bod unrhyw suddion yn rhedeg yn glir.

Llysiau wedi'u rhewi Bydd angen coginio'r rhan fwyaf o lysiau wedi'u rhewi, gan gynnwys india-corn, cyn y gallwch eu bwyta. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y deunydd pecynnu yn gyntaf.

Gair i gall gan Ceri:
Mae coginio yn achosi niwed i’r proteinau mewn bacteria ac yn eu lladd. Dyna pam mae coginio yn cael gwared ar facteria niweidiol sydd mewn rhai bwydydd. Coginiwch y bwyd nes ei fod yn cyrraedd 70°C ac yn aros ar y tymheredd hwnnw am 2 funud.

Overlay Icon

OERI

Swords Icon

Mae oeri bwyd yn gywir yn helpu i atal bacteria niweidiol rhag tyfu.

I gadw'ch bwyd yn ddiogel, dylech chi:

  • storio unrhyw fwyd gyda dyddiad 'defnyddio erbyn', ynghyd â phrydau wedi'u coginio, saladau a chynhyrchion llaeth, yn eich oergell
  • ios nad ydych yn siŵr ble y dylech chi storio bwyd yna edrychwch ar y deunydd pecynnu am y cyfarwyddiadau storio
  • cadw bwyd allan o'r oergell gyn lleied â phosibl wrth ei baratoi
  • oeri unrhyw fwyd wedi'i goginio ar dymheredd ystafell, ac yna ei roi yn yr oergell o fewn awr neu ddwy

Mae Gerwyn Grilio yn egluro'r 'Parth Peryglus'
Bydd germau/bacteria yn tyfu ar dymheredd uwch nag 8°C ac is na 63°C – gelwir hyn y ‘Parth Peryglus’. Dyna pam ein bod ni'n cynghori defnyddio’r oergell fel y ffordd fwyaf diogel o ddadmer bwyd, a hynny dros nos. Wrth ddadmer bwyd yn yr oergell, ni ddylai eich bwyd gyrraedd y ‘Parth Peryglus’ ar unrhyw adeg. Dylai eich oergell fod ar 5°C neu is. Bydd angen i chi wirio bod eich oergell yn ddigon oer gan ddefnyddio thermomedr oergell. Peidiwch â gorlenwi'ch oergell. Wrth adael lle yn yr oergell, bydd awyr yn gallu cylchredeg a bydd y tymheredd sydd wedi'i osod yn cael ei gynnal.

Overlay Icon

YNYS CAPTEN CAWL

Swords Icon

Da iawn chi aelodau newydd griw y SWP ARR am deithio'n ddiogel dros y Pedwar Cefnfor i ynys Capten Cawl ac am ddysgu’r Pedwar Hanfod Hylan i ddatgloi'r trysor sy’n llawn dop o wybodaeth am ddiogelwch bwyd. I gael gwybodaeth fanylach am ddiogelwch bwyd, ewch i https://www.food.gov.uk/cy/food-safety. Fel aelod newydd o griw y SWP ARR, eich nod chi yw addysgu pawb y dewch ar eu traws am hanfodion diogelwch bwyd.
Lledaenwch y neges fel nad yw eraill yn lledaenu'r germau.

Adnodd addysgol ar gyfer ysgolion y gellir ei lawrlwytho: Pecyn Miri'r Môr-ladron ar gyfer Athrawon (ffeil .zip).

© Hawlfraint y Goron 2019